Rheolwr Cadwraeth at Cymdeithas Eryri Snowdonia Society
CL3, , United Kingdom -
Full Time


Start Date

Immediate

Expiry Date

19 Nov, 25

Salary

32000.0

Posted On

19 Aug, 25

Experience

0 year(s) or above

Remote Job

Yes

Telecommute

Yes

Sponsor Visa

No

Skills

Good communication skills

Industry

Information Technology/IT

Description
  • Oriau: 37.5 awr/wythnos
  • Swydd barhaol
  • Cyflog: £30,000-32,000 yn dibynnu ar brofiad
  • Yn adrodd i: Cyfarwyddwr
  • Chi fydd yn rheoli: Tîm cadwraeth
  • Dyddiad cau ceisiadau: 09:00, dydd Llun 1 Medi 2025
  • Dyddiad cyfweliad:10 Medi 2025
    Mae hwn yn gyfle anhygoel i arwain a rheoli gwaith cadwraeth ymarferol Cymdeithas Eryri. Rydym yn elusen gofrestredig sy’n gweithio i amddiffyn a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Parc Cenedlaethol Eryri. Fel rhan o’n Cynllun Strategol, rydym yn gweithio gyda sefydliadau partner i gyflawni gwaith cadwraeth ymarferol, yn gweithio gyda gwirfoddolwyr yn aml. Rydym yn chwilio am weithiwr amgylcheddol proffesiynol profiadol a galluog i arwain ein gwaith cadwraeth, arwain ein tîm cadwraeth, a chyfleu ein gwaith.
    Mae hon yn swydd bwysig o fewn y Gymdeithas. Os ydych chi’n amgylcheddwr profiadol a brwdfrydig sydd eisiau gwneud gwahaniaeth, dyma’r swydd i chi.
    Eich rôl chi fydd rheoli ein tîm cadwraeth ymarferol, trefnu ac arwain rhaglen o ddyddiau gwaith gwirfoddol ymarferol gan gynnwys cydlynu staffio ac arweinwyr, asesiadau risg, recriwtio gwirfoddolwyr, trefniadau ymarferol, cyhoeddusrwydd i gyfleoedd a gwaith a wneir, cofnodi gweithgaredd gwirfoddolwyr ac adrodd ar waith a gwblhawyd. Byddwn yn recriwtio dau aelod ychwanegol o’n tîm cadwraeth yn fuan ar ôl i chi ddechrau a bydd gennych rôl allweddol wrth lunio rhestr fer a gwneud y penodiadau hyn.
    Gan weithio gyda’r Rheolwr Rhaglen a’r Cyfarwyddwr, byddwch yn datblygu rhaglenni gwaith ymarferol hirdymor; yn nodi ac yn blaenoriaethu cyfleoedd gwaith ymarferol gyda phartneriaid, yn sicrhau cyfathrebu da, yn casglu adborth ac yn cymhwyso gwelliant parhaus. Chi fydd prif gyswllt y Gymdeithas â’n sefydliadau partner ynghylch y gwaith hwn.
    Byddwch yn rheoli, yn cefnogi ac yn datblygu ein tîm cadwraeth gan sicrhau y gallant gyflawni eu rolau a’u dyletswyddau swydd yn effeithiol.
    Byddwch yn cynrychioli’r Gymdeithas mewn digwyddiadau ac i grwpiau, mewn partneriaethau ac yn y cyfryngau i feithrin cefnogaeth i’n gwaith.
    Byddwch yn arwain ar Iechyd a diogelwch a diogelu ar gyfer ein rhaglen wirfoddoli. Byddwch yn cadw i fyny â chanllawiau, deddfwriaeth ac arfer gorau perthnasol; cydlynu protocolau, cofnodion ac asesiadau risg iechyd a diogelwch a sicrhau bod protocolau Diogelu yn cael eu dilyn.
Responsibilities

Please refer the Job description for details

Loading...