Start Date
Immediate
Expiry Date
03 Dec, 25
Salary
30024.0
Posted On
03 Sep, 25
Experience
0 year(s) or above
Remote Job
Yes
Telecommute
Yes
Sponsor Visa
No
Skills
Good communication skills
Industry
Information Technology/IT
SWYDDOG GWAITH ACHOS DROS DRO HYD AT 31 MAWRTH 2026 £30,024 Y FLWYDDYN
Rydym yn awyddus i recriwtio 2 Swyddog Gwaith Achos dros dro i ddelio ag achosion, i ddechrau cyn gynted ag y bo modd. Bydd y contractau dros dro hyn yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth 2026.
Oherwydd natur y swyddi hyn, rydym yn rhagweld y bydd angen i ddeiliaid y swyddi hyn fod wedi’u lleoli yn y swyddfa yn bennaf am yr ychydig fisoedd cyntaf. Mae ein swyddfa ym Mhencoed, oddi ar Gyffordd 35 yr M4.
Dyma swyddi lle bydd eich gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid yn dod i’r amlwg. Byddwch yn delio ag ymholiadau a chwynion gan y cyhoedd ac yn eu datrys a’u huwchgyfeirio lle bo angen, yn ogystal â drafftio a chyhoeddi hysbysiadau penderfynu perthnasol. Byddwch yn:
I wneud cais am y swydd hon, yn ddelfrydol bydd gennych rywfaint o brofiad o ddelio â chwynion neu brofiad o ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid. Fodd bynnag, croesewir ceisiadau gan unigolion sydd wedi graddio’n ddiweddar yn y Gyfraith, ond nad oes ganddynt y profiad gwaith perthnasol. Bydd angen y canlynol arnoch:
· Cymhwysedd amlwg o ran systemau TG
· Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur
· Gallu gweithio’n dda mewn tîm ac yn annibynnol
· Disgresiwn llwyr a dealltwriaeth o’r angen am gyfrinachedd
Cynigir gweithio hyblyg a gweithio hybrid o bosibl ar ôl cwblhau’r hyfforddiant, gyda lwfansau gwyliau blynyddol hael (32 diwrnod pro rata), Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ac amrywiaeth eang o fuddion iechyd a lles – sy’n golygu bod yr Ombwdsmon yn gyflogwr delfrydol i bobl sy’n chwilio am waith ar hyd a lled Cymru a’r tu hwnt
Gallwch wneud cais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol.